Gweinyddwr Cefnogi Busnes – Gweithrediadau
Gweinyddwr Cefnogi Busnes – Gweithrediadau
Adran Gweithrediadau y Rhyl/ Gweithio YstwythContract Cyfnod Penodol Dros Dro am 12 mis
37 awr yr wythnos
GTAGC Gradd 04 £25,545 i £26,421 y flwyddyn pro rata
Darparu cefnogaeth weinyddol gynhwysfawr, a chyfrinachol pan fo angen, i’r Adran Gweithrediadau er mwyn sicrhau bod yr Adran yn cael ei rhedeg yn effeithlon o ddydd i ddydd. Byddwch yn gyfrifol am baratoi a chynnal rotas electronig blynyddol trwy fewnbynnu dyddiadau cyrsiau, gwyliau blynyddol ac absenoldebau eraill o'r gwaith.Cadw cofnodion amser i ffwrdd yn lle amser a weithiwyd ar gyfer yr Adran Gweithrediadau. Cwblhau cofnodion presenoldeb yr adran ar sail a bennwyd ymlaen llaw a’u dychwelyd i’r Adran Gyllid.
Bydd gennych NVQ Lefel 3 neu uwch mewn cymhwyster cysylltiedig fel Gweinyddu Busnes, neu brofiad swyddfa a gweinyddol perthnasol, a byddwch yn gallu defnyddio technoleg gwybodaeth i lefel ganolradd sy'n cynnwys sgiliau mewnbynnu a bysellfwrdd a gwybodaeth ymarferol gadarn am Microsoft Office.
Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog a'r gallu i deipio 35 gair pob munud yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd deiliad y swydd yn meddu ar y gallu i roi sylw i fanylion a dangos cywirdeb wrth weithio o fewn terfynau amser.
Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau trefnu da a'r gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith yn effeithiol.
Cyflawni Cymraeg Lefel 2 o fewn 12 mis i'r penodiad.
Sylwch fod y swydd hon yn destun Gwiriad GDG safonol a geirdaon boddhaol. I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw hanner dydd ar 28/10/24
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau.